Ewrop: Stephen Crabb yn cefnogi cynllun David Cameron
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi dweud y bydd yn cefnogi cynlluniau'r Prif Weinidog David Cameron i ail-drafod rôl Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd, er nad ydi o yn aelod o "glwb cefnogwyr yr Undeb Ewropeaidd".
Mewn anerchiad yng Nghaerdydd yn ddiweddarach ddydd Iau bydd Mr Crabb yn dweud os bydd y trafodaethau'n llwyddo, fe fydd o ddiddordeb i Brydain a Chymru i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Mr Cameron yn trafod newidiadau i aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys galw am newidiadau i reolau budd-daliadau.
Mae dyfalu wedi bod y bydd Mr Cameron yn cynnal refferendwm ar 23 Mehefin ar aelodaeth Prydain o'r UE, yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau cynhadledd Ewropeaidd ym mis Chwefror.
Mae disgwyl i Mr Crabb ddweud ddydd Iau:
"Mae na ragdybiaeth eich bod, os yn wleidydd yng Nghymru, yn aelod llawn o glwb cefnogwyr yr UE. Nid ydw i...Mae'n rhaid i'r ddadl dros Gymru yn parhau o fewn yr UE gael eu hennill ar ddadleuon mwy cadarn."
Tir canol
Mae hefyd yn debyg o ddweud ei fod "yn rhan o DNA y Ceidwadwyr i fod yn amheus o lywodraeth fawr ag ymwthiol", a bod hyn yn esbonio'r elfen o amheuaeth am Ewrop o fewn y blaid.
Ond bydd yn dweud fod y ddadl dros aros yn yr UE yn gorfod cael ei hennill o'r tir canol.
"Mae'r tir canol yn lle o egwyddor a rhesymoldeb. Os bydd trafodaethau'r Prif Weinidog yn llwyddianus ac fe fydd yn sicrhau'r diwygiadau y mae wedi eu disgrifio, yna rwy'n credu y bydd o fudd i'r Deyrnas Unedig i aros o fewn Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig."
Ddydd Mercher fe ysgrifennodd pedwar arweinydd y pleidiau yn y Senedd yng Nghaerdydd at David Cameron yn gwrthwynebu'r awgrym o refferendwm ym mis Mehefin, gan ddadlau ei fod yn rhy agos i ddyddiad etholiad y Cynulliad ym mis Mai.