Addasu canlyniadau: Gwahardd prif athrawes
- Cyhoeddwyd

Mae athrawes o Sir Benfro gafwyd yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol ar ôl iddi addasu canlyniadau profion disgyblion wedi cael ei thynnu oddi ar y gofrestr ddysgu. Gall Mrs Harries wneud cais i ddysgu eto mewn dwy flynedd.
Roedd Shan Harries, 47 oed, yn wynebu honiadau iddi newid canlyniadau disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Eglwyswrw ym mis Rhagfyr 2013 wedi i Estyn osod targedau newydd ar gyfer profion ysgrifenedig Cymraeg.
Casglodd ymchwiliad y cyngor bod 11 o ganlyniadau profion ysgrifenedig Cymraeg wedi eu newid.
Clywodd gwrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg bod y pennaeth wedi codi graddau disgyblion er nad oedd "unrhyw dystiolaeth" eu bod wedi cyrraedd y nod disgwyliedig.
Dywedodd Cyngor Penfro mai gorchymyn gwahardd oedd yr unig gam priodol i'w gymryd o ystyried difrifoldeb yr achos. Dywedodd Richard Parry Jones, cadeirydd panel y gwrandawiad, fod Mrs Harries wedi bod yn fwriadol anonest.
"Roedd hwn yn achos difrifol o ran yr effaith ar ddysgwyr a bradychu hyder yn y proffesiwn", meddai.
Cafodd Mrs Harries ei gwahardd rhag dysgu am ddwy flynedd - sef y cyfnod byraf y gallai fod wedi ei gwahardd - am fod 20 mis wedi mynd heibio ers iddi adael yr ysgol. Mae ganddi 28 niwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad.