Gwasanaethau strôc yn parhau i wella yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaethau strôc yng Nghymru yn parhau i wella, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r trydydd adroddiad blynyddol gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod dros 1000 yn llai o farwolaethau o strôc y flwyddyn o'i gymharu â degawd yn ôl.
Mae'r adroddiad yn nodi'r cynnydd y mae'r gwasanaeth iechyd wedi'i wneud i rwystro a thrin strôc, ond yn tynnu sylw at feysydd i'w gwella hefyd.
Bu farw 2,317 o bobl o strôc yng Nghymru yn 2014 o'i gymharu â 3,158 yn 2005 - gostyngiad o 26%.
Mae tua 7,000 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn ac mae dros 65,000 o oroeswyr strôc yn byw yma.
'Mwy yn goroesi'
Fe wnaeth yr adroddiad, sy'n cynnwys ffigyrau am 2015, ddarganfod bod y gofal cyn mynd i'r ysbyty gan y gwasanaeth ambiwlans wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod gwell ymwybyddiaeth o symptomau posibl strôc o ganlyniad i ymgyrchoedd.
Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen gwella mewn rhai mannau, fel datblygu gwasanaethau rhyddhau â chymorth, yn ogystal â chynyddu nifer y cleifion strôc sy'n cael eu hasesu o fewn chwe mis o gael eu rhyddhau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut y mae gwasanaethau strôc yng Nghymru'n parhau i wella gyda mwy o bobl yn goroesi a llai o bobl yn marw o strôc."