£2,800 i baratoi cynghorwyr ar gyfer darlledu ar y we
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor wedi gwario cannoedd o bunnau ar "hyfforddiant ymwybyddiaeth camerâu" ar gyfer ei gynghorwyr.
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi gwario cyfanswm o £2,800 ar chwe sesiwn hyfforddiant.
Daw wrth i'r cyngor ddechrau darlledu cyfarfodydd ar y we o fis Ionawr ymlaen.
Dywedodd Plaid Cymru ei fod yn "bryderus" am y defnydd o arian cyhoeddus, ond fe wnaeth y cyngor ddadlau bod angen yr hyfforddiant i'r gwasanaeth gael ei "gyflawni'n iawn".
Fe wnaeth cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru ddatgelu bod £1,400 wedi'i wario ar ddau ddiwrnod o hyfforddiant ar gyfer 24 o gynghorwyr ym mis Gorffennaf 2015.
Cafodd pedair sesiwn arall, gwerth £1,400, eu cynnal ar gyfer 150 o aelodau a swyddogion fis yma.
Hyd yn hyn, mae'r cyngor wedi darlledu pum cyfarfod pwyllgor ar y we, sydd wedi denu cyfanswm o 1,716 o ymweliadau.