Barwnes: 'Dylai myfyrwyr dalu'r arian yn ôl'
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai myfyrwyr, sy'n astudio tu allan i Gymru, ddod yn ôl a gweithio am dair blynedd neu ad-dalu'r arian gafodd ei dderbyn ar gyfer ffïoedd, medd aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur.
Wrth drafod ffïoedd addysg, dywedodd Y Farwnes Eluned Morgan ar raglen Pawb a'i Farn ei bod am newid y system bresennol lle mae'r llywodraeth yn talu grantiau i fyfyrwyr o Gymru astudio mewn unrhyw goleg neu brifysgol o'u dewis mewn unrhyw wlad heb orfodaeth arnyn nhw i ddychwelyd i Gymru ar ôl gorffen eu cyrsiau.
Fe ddaw ei sylwadau wythnos wedi i'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis AC, ddweud na fyddai'r polisi presennol y blaid ar ffïoedd myfyrwyr yn dod i ben pe bai'r blaid mewn grym ar ôl etholiad y Cynulliad ym mis Mai.
Mater newnol
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y polisi'n "gimic anghyfrifol ac anghynaladwy".
Wrth ymateb i sylwadau'r farwnes ar y rhaglen dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater mewnol i'r Blaid Lafur oedd hwn.
"... os ydyn ni'n talu pobl i fynd i astudio i Loegr, 'dwi eisiau gweld system ble, os nad yw'r myfyrwyr yn dod yn ôl i Gymru i weithio am tua tair blynedd, yna bydd rhaid iddyn nhw ad-dalu'r grant neu'r arian yn ôl," meddai'r farwnes ar y rhaglen.
"Mae hwn yn rhywbeth 'dwi'n mynd i drio gwthio i mewn i'r maniffesto Llafur, 'dwi ddim yn gwybod sut eiff hi, ond dwi'n meddwl y byddai hyn yn gwneud synnwyr.
"Mae hyn yn rhywbeth dadleuol a 'dwi'n gwybod y byddai hynny yn rhywbeth sy'n weinyddol anodd.
"Os ydych chi yn meddwl am feddygaeth, er enghraifft, rydyn ni angen meddygon yng Nghymru," meddai. "Dwi ddim eisiau talu i hyfforddi rhywun sydd wedi mynd mas i Awstralia. Trethdalwyr Cymru sy'n talu amdanyn nhw, felly fydden ni'n hoffi iddyn nhw ddod yn ôl."
Ar y panel roedd Adam Price o Blaid Cymru, Suzy Davies AC o'r Blaid Geidwadol, Cadan ap Tomos o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Gareth Davies o Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd Cadan ap Tomos ei fod yn "falch" i gael cyfle i astudio tu allan i Gymru.
"Mae'n rhaid i ni dderbyn fod 'na fyd tu allan i Gymru, dwi ddim yn credu y dylen ni ddal ein pobl ifanc yn ôl a'u gorfodi nhw i aros yng Nghymru."
Ond dywedodd nad oedd y system bresennol yn "gynaladwy".
'Gwireddu potensial'
Yn ôl Suzy Davies, cyfrifoldeb y llywodraeth oedd "rhoi cymorth i unrhyw fyfyrwyr i wireddu potensial, ac nid i atal myfyrwyr rhag mynd i brifysgol o'u dewis yn y Deyrnas Unedig".
Dywedodd Adam Price o Blaid Cymru ei bod yn "glir i bawb nad yw'r trefniant presennol yn gynaladwy, ond dwi yn credu y dylai fod cefnogaeth ar gyfer cyrsiau sydd ddim ar gael yng Nghymru".
Hefyd dywedodd ei fod o blaid mynd yn ôl i system lle oedd addysg uwch yn "rhad ac am ddim".