Cytundeb Airbus: Newyddion da i Gymru?
- Cyhoeddwyd

Mae Iran wedi arwyddo cytundeb i brynu 118 o awyrennau Airbus gwerth £17.4bn ($25bn), yn un o'r cytundebau mwyaf i gael ei arwyddo ers i sancsiynau yn erbyn llywodraeth Tehran ddod i ben.
Cafodd y cytundeb ei arwyddo wrth i arlywydd Iran, Hassan Rouhani, ymweld â Ffrainc. Mae'r cytundeb yn golygu y bydd Iran yn prynu 12 o awyrennau A380 Superjumbo.
Mae'n debyg y bydd y cytundeb o fantais i Brydain, ac i weithwyr yng Nghymru yn y pen draw gan fod adenydd awyrennau'r A380 yn cael eu hadeiladu ym Mrychdyn, Sir y Fflint.
Mae'r cytundeb rhwng Airbus ag Iran yn hwb sylweddol i gwmni Airbus, sydd gyda'i bencadlys yn Ffrainc. Mae'r cwmni wedi cael trafferth i ddarbwyllo cwsmeriaid i brynu'r awyrennau mawr y mae'n ei adeiladu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae'r cytundeb yn dibynnu ar lwyddiant Airbus i sicrhau trwyddedau allforio, gan fod dros 10% o gydrannau'r awyrennau'n cael eu hadeiladu yn yr UDA.