Ffugio damweiniau: Dedfrydu pump
- Cyhoeddwyd

Mae pump o bobl, oedd yn euog o dwyll wrth ffugio damweiniau ceir er mwyn elwa ar arian yswiriant, wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd.
Roedd y pump o dde Cymru wedi gwneud ceisiadau am yswiriant gwerth dros £130,000 rhwng 2009 a 2011.
Fis diwethaf penderfynodd rheithgor fod Bethan Palmer, 26, o Gasnewydd, Stephen Pegram, 49, o'r Coed Duon, Nicola Cook, 41, o Hengoed, Nicola Rees, 48, o Fargoed, a Stephen Brooks, o Gaerdydd yn euog o'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Cafodd Palmer ddedfryd ohiriedig o 10 mis am ei bod yn euog o gynllwynio i dwyllo a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd Pegram garchar o chwe mis am gynllwynio i dwyllo ar ôl iddo dderbyn £4,200 am ddifrod i'w gar.
Cafodd Cook garchar am 12 mis am wneud cais am £5,500 am anaf honedig o ganlyniad i ddamwain.
Roedd yna ddedfryd o garchar gohiriedig o naw mis i Rees am gynllwynio i dwyllo.
Cafodd Brooks ddedfryd ohiriedig o chwe mis.
Roedd yr achos yn rhan o ymchwiliad ehangach Heddlu Gwent i gynllwyn oedd yn golygu cost o fwy na £760,000 i'r diwydiant yswiriant.
Cafodd Byron Yandell, 32, ei dad Peter Yandell, 53 a'i wraig Rachel Yandell, 31, ynghyd â Gavin Yandell, 31, a Michelle Yandell, 52, eu carcharu rhwng dwy a chwe blynedd.
Straeon perthnasol
- 16 Rhagfyr 2015
- 17 Rhagfyr 2015