Tad Cheryl James o Langollen 'am ddod o hyd i'r gwir'
- Cyhoeddwyd

Mae tad milwr o Langollen gafodd ei darganfod yn farw ym marics Deepcut, Surrey, yn gobeithio canfod y gwir ynglŷn â beth ddigwyddodd i'w ferch.
Mae disgwyl i gwest newydd i farwolaeth Cheryl James ddechrau ddydd Llun.
Dyweodd ei thad, Des James o bentref Llanymynech ym Mhowys, bod ganddo feddwl agored am y cwest.
Cafwyd hyd i gorff y Preifat James, 18 oed o Langollen, ym mis Tachwedd 1995, gyda bwled yn ei phen.
Roedd hi'n un o bedwar o filwyr a gafodd eu canfod yn farw gydag anafiadau saethu yn y gwersyll rhwng 1995 a 2002.
'Y gwir'
"Does gen i ddim ryw gasgliad yn fy meddwl, dwi jest eisiau'r gwir," meddai Mr James.
"Os mai'r dyfarniad fydd hunan laddiad, os yw'r cwestiynau wedi eu hateb - beth achosodd yr awyrgylch yna? Sut wnaeth e ddigwydd? Yna mae hynny yn iawn."
Penderfynodd Heddlu Surrey adael i'r fyddin barhau gyda'r ymchwiliad i'w marwolaeth. Ni chafodd profion fforensig na balistig eu cynnal.
Awr barodd y cwest gwreiddiol, tair wythnos ar ôl iddi farw. Roedd saith tyst a rheithfarn agored gafodd ei rhoi gan y crwner. Doedd dim digon o dystiolaeth ar y pryd i gefnogi'r honiad bod y Preifat James wedi lladd ei hun.
Gofyn am gwest newydd
Dywedodd Heddlu Surrey yn 2002 eu bod am ail edrych ar yr achosion.
Daeth yr ymchwilaid i'r casgliad nad oedd tystiolaeth bod unrhyw berson arall wedi chwarae rhan yn y marwolaethau. Ond doedd dim hawl gan y teuluoedd i weld y dystiolaeth gafodd ei gasglu yn rhan o hynny.
Yn 2011 dywedodd Liberty y bydden nhw yn dwyn achos yn erbyn Heddlu Surrey o dan y ddeddf Hawliau Dynol oni bai eu bod nhw'n darparu'r dystiolaeth ynglŷn â sut wnaeth y Preifat James farw.
Ymhlith y dogfennau gafodd eu rhoi i'r teulu oedd dros 90 o ffeiliau, oedd yn golygu bod Liberty yn gallu gofyn am gwest newydd. Mi wnaeth y goruchel lys orchymyn hynny yn 2014.
Wrth siarad gyda rhaglen 'Eye on Wales' BBC Radio Wales cyn y cwest dywedodd Mr James:
"Does yna ddim dyfarniad anghywir fan hyn os yw'r broses yn berffaith. Os allai edrych yn ôl a dweud fod popeth allen ni fod wedi gwneud, mi wnaethon ni. Dyna'r peth pwysicaf."
Tystion o'r gwersyll
Mr James fydd un o'r tystion cyntaf i rhoi tystiolaeth pan fydd y cwest yn dechrau yn Surrey ddydd Llun. Bydd mwy na cant o bobl eraill hefyd yn gwneud hynny.
Fe all y ffigwr hwnnw godi os y bydd y crwner yn penderfynu gwrthod dadleuon y Weinyddiaeth Amddiffyn a galw ar unigolion oedd yn Deepcut i roi tystiolaeth ynglŷn â'r honiadau o fwlio a chamdriniaeth yn y gwersyll.
"Fy marn i ydy bod y tystion hyn yn rhoi coel ar y diwylliant dwi'n credu oedd yn treiddio trwy'r camp," ychwanegodd Mr James.
"Felly mi ddylen nhw fod yn ddilys mewn llys cwest achos... mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwadu bod yna ddiwylliant yn bodoli.
"I brofi bod yna broblem diwylliant mae'n rhaid i ni ganiatau i'r bobl yma gael siarad."
Dywedodd Llefarydd ar rhan y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Preifat Cheryl James.
"Mater i'r crwner nawr fydd y cwest ond mi fyddwn ni yn parhau i gydweithredu a chynnig cefnogaeth i'r crwner pan fo angen."
'Eye on Wales', BBC Radio Wales, Ionawr 31, 13:30.