Teyrnged teulu yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhrecelyn
- Cyhoeddwyd

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn 58 oed fu farw wedi gwrthdrawiad yn Nhrecelyn ddydd Mercher.
Mae teulu Paul Derek Daley o Gefn Fforest wedi ei ddisgrifio fel dyn oedd yn "caru ei deulu".
"Roedd Paul a'i gariad ers 15 mlynedd, Kay, dros eu pennau a'u clustiau mewn cariad," meddai'r teulu mewn datganiad.
"Roedd Paul y math o frawd ac ewythr y byddai unrhyw deulu yn ddiolchgar ohono. Mi fyddai yn goleuo'r ystafell gyda'i hiwmor a'i wên ddrygionus.
"Gorffwys yn dawel Paul, mi fyddwn i gyd yn gweld dy eisiau yn fawr."
Roedd Mr Daley yn teithio mewn Citroen pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchfan yr A467 Trecelyn am 9.55pm. VW Passat oedd y car arall.
Cafodd gyrrwr y car hwnnw ei arestio ar amheuaeth o yrru yn beryglus ond mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'n parhau.
Mae un o'r teithwyr oedd yn y car gyda Mr Daley yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd i gysylltu trwy ffonio 101.