BBC Cymru Fyw

Lluniau anweddus: Carchar i ddyn o Lanbedrgoch am 40 mis

Published
image copyrightArall
image captionBydd rhaid i Robert Siddall gofrestru fel troseddwr rhyw
Mae dyn 59 oed o Lanbedrgoch ar Ynys Môn wedi ei garcharu am 40 mis ar ôl cynhyrchu a dosbarthu lluniau anweddus o blant.
Bydd rhaid i Robert Siddall gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei fywyd a chafodd gorchymyn atal niwed rhywiol ei gyflwyno.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod y drosedd yn ymwneud â 440 o luniau.
Roedd wedi ei arestio am dorri amodau mechnïaeth ar ôl cyfeillachu â merch 14 oed.
Dywedodd y Barnwr Philip Harris-Jenkins fod Siddall, blediodd yn euog i'r cyhuddiad, wedi gwylio a dosbarthu delweddau "ffiaidd".