Sefydlu Kathy Jones yn ddeon newydd Bangor

  • Cyhoeddwyd
Kathy JonesFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Bydd deon newydd Bangor yn cael ei sefydlu ddydd Sadwrn o flaen cynulleidfa yn eglwys gadeiriol y ddinas.

Mae Kathy Jones o Fachynlleth wedi gweithio fel prif gaplan y Gwasanaeth Iechyd a darlithydd gwadd.

Dywedodd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, y bydd ei "phrofiad dwfn" gyda'r Gwasanaeth Iechyd o fudd mawr.

"Mae ganddi sgiliau bugeiliol cryf oherwydd yr hyn wnaeth hi yn y Gwasanaeth Iechyd," meddai. "Mae llawer yn ei hadnabod yn yr esgobaeth oherwydd ei gwaith yng Nghaergybi, Bangor a Betws-y-coed.

"Oherwydd ei gallu i siarad Cymraeg mi fydd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda'r cynulleidfaoedd i gyd. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda hi."

Dywedodd hi ei bod yn "anrhydedd" dychwelyd i esgobaeth yn ei chynefin. "Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda'r gadeirlan ac eglwysi Dinas Bangor yn ogystal â'm cydweithwyr a'r gymuned ehangach ..."

Bydd hi hefyd yn arweinydd gweinidogaeth ardal Bro Deiniol.