Dechrau gwaith adfer twnneli'r A55 ym Mhenmaenmawr
- Cyhoeddwyd

Bydd gwaith o wella twnnel Pen-y-Clip ar yr A55 ger Penmaenmawr, Sir Conwy, yn dechrau ddydd Sul.
Fe fydd twnnel Pen-y-Clip yn cau am bythefnos, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio o amgylch y penrhyn.
Bydd twnnel Conwy yn cael ei gyfyngu i un lôn am dair wythnos o 14 Chwefror.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart y bydd swyddogion yn gwneud "popeth yn eu gallu " i leihau'r amharu ar deithwyr a chwblhau'r gwaith erbyn dechrau mis Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2015