Fydd trenau rhwng Cymru a Lloegr yn dod i ben?
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Economi Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o "anwybodaeth" oherwydd awgrymiadau y gallai nifer o wasanaethau rheilffordd rhwng Cymru a Lloegr ddod i ben.
Bydd y cyfrifoldeb am wasanaeth Cymru a'r Gororau yn cael ei ddatganoli'r flwyddyn nesaf ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai rhai llwybrau sy'n gwasanaethu teithwyr o Loegr gael eu rhoi i gwmnïoedd eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth na fyddai penderfyniad "heb ystyried y farn leol".
'Ddim yn deall'
Yng Nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi y llynedd dywedodd Llywodraeth y DU: "Mae hi'n debygol y bydd llwybrau sy'n gwasanaethu marchnadoedd Lloegr yn bennaf yn cael eu rhoi i gwmnïoedd eraill."
Wrth ymateb i'r awgrym y byddai'n rhaid i deithwyr newid trenau mewn gorsafoedd ger y ffin, dywedodd Edwina Hart bod rhai swyddogion yr Adran Drafnidiaeth "ddim wir yn deall sut mae pethau'n gweithio a beth sy'n bwysig".
"Rwy'n ystyried bod rhai o'u sylwadau'n anwybodaeth nid yn gynllwyn," meddai.
"Rydyn ni eisiau sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau ..."
Y llwybrau allai gael eu heffeithio
- Aberystwyth-Birmingham
- Caergybi-Manceinion
- Wrecsam-Bidston
- Aberdaugleddau-Manceinion
Dywedodd John Rogers o Railfuture Cymru: "Mae'r syniad yn chwerthinllyd, mae'n anymarferol ac mae'n cael ei wneud y tu ôl i'r llenni yn gyfrinachol, ac rydyn ni'n benderfynol o'i frwydro.
"Dyw e ddim er budd teithwyr. Mae pobl yn casáu newid trenau. Mae'n atal pobl a bydd yn cael effaith ar y diwydiant twristiaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: "Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer llwybrau a gorsafoedd sy'n croesi'r ffin wrth i ni symud tuag at ddatganoli masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau."
Mwy o fanylion ar Sunday Politics Wales, BBC1 Wales, 11:00 ddydd Sul.