Cynllun datganoli pwerau i Gymru yn 'achos pryder'
- Published
Gallai cynlluniau i roi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru "achosi problemau" gan fod yn agored i heriau cyfreithiol ac yn achosi mwy o ansicrwydd ym Mae Caerdydd, yn ôl arbenigwr cyfansoddiadol.
Mae cynllun drafft o Fesur Cymru yn cynnig mwy o bwerau ar ynni, trafnidiaeth ac etholiadau.
Ond dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru bod ansicrwydd yn parhau, allai ddenu heriau cyfreithiol rhwng Cymru a San Steffan.
Rhybuddiodd rhag rhuthro i newid y ddeddfwriaeth rhag ofn bod hyn yn arwain at "fethiant arall".
Yr Athro Jones yw un o awduron adroddiad sy'n asesu cynlluniau datganoli Llywodraeth y DU, fydd yn cael ei gyhoeddi gan Brifysgol Caerdydd ac University College London ddydd Llun.
Yn 2015, fe wnaeth yr un bobl rybuddio y byddai model "pwerau wedi'u cadw" o ddatganoli yn anhebygol o fod yn ymarferol.
Yn siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales, dywedodd yr Athro Jones bod "newidiadau mawr iawn rhwng y Papur Gwyn a'r ddeddfwriaeth ddrafft".
"Rydyn ni'n meddwl bod y rhain yn ychwanegu at y problemau ac yn tanseilio nodau'r model pwerau wedi'u cadw, sef gneud pethau'n fwy eglur, cadarn a sefydlog," meddai.
"Mae'n creu llawer o ansicrwydd a gallai ddenu heriau yn y Goruchaf Lys - ry'n ni wedi cael tri o'r rheiny ers 2011."