Ymgyrch i gadw myfyrwyr yng ngogledd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Bangor yn un o'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr ymgyrch
Mae dwy brifysgol a choleg yn gweithio gyda'i gilydd i gadw myfyrwyr yng ngogledd Cymru i astudio eu gradd.
Bydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn chwilio am ffyrdd newydd i gwrdd ag anghenion sgiliau ac addysg busnesau a myfyrwyr.
Y bwriad yw cyflwyno sylfaen am "oes newydd o gydweithio academaidd a diwydiannol".
Cafodd gytundeb tebyg ei wneud rhwng Glyndŵr a Choleg Cambria y llynedd.