Pro12: Dreigiau 23-13 Leinster
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Fe wnaeth Leinster golli'r cyfle i fynd i gopa tabl y Pro12 wrth iddyn nhw gael eu trechu gan y Dreigiau ar noson wlyb yn Rodney Parade nos Wener.
Y maswr Jason Tovey wnaeth sgorio 18 o bwyntiau'r tîm cartref mewn perfformiad hyderus.
Fe wnaeth ceisiau Ashton Hewitt and Tovey sicrhau bod y Dreigiau ar y blaen ar hanner amser, er i Luke McGrath groesi i Leinster.
Yr ymwelwyr oedd y pwyso yn yr ail hanner, ond fe wnaeth amddiffyn ystyfnig y Dreigiau sicrhau buddugoliaeth fawr i'r clwb o Gasnewydd.