Abertawe'n arwyddo'r ymosodwr Alberto Paloschi o Chievo

Alberto Paloschi Image copyright AP

Mae Abertawe wedi arwyddo'r ymosodwr Alberto Paloschi o Chievo yn Yr Eidal am ffi, sy'n cael ei gredu i fod tua £8m.

Mae'r gŵr 26 oed, sydd wedi sgorio wyth gôl mewn 21 gêm yn Serie A y tymor yma, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner.

Bydd yn gwisgo crys rhif naw gyda'r Elyrch.

"Roedd Alberto Paloschi yn chwarae i mi yn Parma," meddai prif-hyfforddwr newydd Abertawe, Francesco Guidolin.

"Gall chwarae'n dda yn Uwch Gynghrair Lloegr am ei fod yn gryf."

Yr Elyrch sydd wedi sgorio'r nifer lleiaf o goliau yn yr Uwch Gynghrair y tymor yma, gyda dim ond 22 gôl mewn 23 gêm.