BBC Cymru Fyw

Achub person o'r Afon Wysg

Published
image copyrightJaggery/Geograph

Mae'r gwasanaethau brys wedi achub person o'r Afon Wysg yn y Fenni, Sir Fynwy.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw tua 03:30 fore Sadwrn.

Dywedodd llefarydd fod y person yn dioddef o sioc ac effeithiau'r oerfel.

"Roedd o'n gafael mewn coeden yn yr afon tua 1,640 troedfedd lawr afon o Font Llanffwyst mewn amgylchiadau hynod beryglus."

Mae'r Gwasanaeth Tân wedi rhybuddio pobl i fod yn ymwybodol o beryglon wrth afonydd, yn enwedig yn dilyn cyfnodau o law trwm.