Morecambe 1-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Er bod Casnewydd yn parhau yn safle 20 yn yr Ail Adran, maen nhw nawr saith pwynt yn glir o'r ddau dîm ar waelod yr adran.
Scott Boden oedd arwr Casnewydd, gan sgorio naill ochr i'r egwyl.
Hon oedd trydedd fuddugoliaeth yr Alltudion mewn deg gêm.
Sgoriodd Boden ar ôl munud o'r chwarae, diolch i groesiad Mark Byrne.
Daeth Morcambe yn gyfartal drwy Shaun Miller, ond tarodd Boden eto i sicrhau'r pwyntiau.