Eastleigh 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Connor Jennings fethu gyda chic o'r smotyn hwyr i Wrecsam, gan olygu fod yr ymwelwyr yn gostwng i safle 12 ar ôl gêm gyfartal yn Eastleigh.

Mae Eastleigh yn parhau yn y pedwerydd safle ar ôl eu pedwaredd gêm gyfartal yn olynol.

Fe wnaeth ergyd wych Andy Drury roi'r tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn y gêm, ond daeth Wrecsam yn gyfartal gydag ergyd o bell gan Sean Newton.

Golygai'r canlyniad fod yna fwlch o chwe phwynt rhwng Wrecsam a'r timau sydd yn safleoedd gemau ail-gyfle.