Huddersfield 2-3 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe lwyddodd Caerdydd am y tro cynta'r tymor hwn i ennill dwy gêm yn olynol gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Huddersfield.
Ar ôl dechrau digon diflas, fe aeth Caerdydd ar y blaen diolch i Peter Whittingham.
Ond daeth y tîm gartref yn gyfartal gydag ergyd Nahki Wells.
Yn chwarae ei gêm gyntaf i'r Adar Glas, fe roddodd Loanee Lex Immers Caerdydd yn ôl ar y blaen ac wedyn roedd yna gic gosb wych gan Whittingham i wneud y pwyntiau yn ddiogel.
Sgoriodd Harry Bunn gol gysur i Huddersfield yn yr amser oedd yn cael ei ganiatáu am anafiadau.
Cyn hyn, roedd Huddersfield yn ddiguro ers pum gêm.
Golygai'r canlyniad fod Caerdydd o fewn pwynt i Ipswich sydd yn yr wythfed safle.