Grŵp iaith yn galw am amserlen
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Gyngor Sir Caerfyrddin osod amserlen bendant ar gyfer gweithredu yn y Gymraeg.
Daeth hyn yn sgil cyfarfod rhwng aelodau'r Gymdeithas ac arweinydd y Cyngor, y cynghorydd Emlyn Dole.
Yn ôl y cynghorydd Dole roedd y cyfarfod yn un buddiol ond fe wnaeth o hefyd rybuddio fod yna her yn eu hwynebu yn enwedig wrth i'r awdurdod wynebu toriadau i'w cyllideb.
Ddechrau'r wythnos fe alwodd pedwar o gyn-gadeiryddion y sir ar i'r awdurdod i wneud mwy o'u gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Sioned Elin, cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
"Er bod y Cyngor wedi rhoi Strategaeth Sgiliau iaith mewn lle, ac er i gynghorwyr adrodd bod pethau'n newid does dim amserlen bendant.
"Wrth drafod heddiw daeth yn amlwg fod pobl ar draws y sir yn rhannu rhwystredigaeth, ac yn gweld nad oes cynllun hirdymor a bod angen hynny.
"Mae'r Safonau Iaith yn gofyn i'r Cyngor roi strategaeth mewn lle i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg felly byddai'n amserol i'r Cyngor roi amserlen mewn lle, er mwyn cael dyddiad clir i anelu at ddod yn sefydliad sy'n gweithio drwy'r Gymraeg."
Straeon perthnasol
- 26 Ionawr 2016