Dod o hyd i gorff babi yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae corff babi wedi ei ddarganfod ar dir ger ystâd ddiwydiannol yng Nghasnewydd.
Dywed Heddlu Gwent eu bod nhw'n trin y farwolaeth fel un anesboniadwy.
Fe gafodd y corff ei ddarganfod bnawn Gwener am 14:00 yn agos at Barc Imperial yn ardal Coedcernyw.
Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Llun ac mae swyddogion yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.