Gwobrwyo goreuon byd y theatr
- Cyhoeddwyd

Perfformiad Theatr Bara Caws o Difa oedd yn fuddugol yn y categori Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg yn Gwobrau Theatr Cymru 2016.
Cafodd categori Gwobr y Gynulleidfa ei hennill am y ddrama Grav gan Gwmni Torch, gyda phleidlais yn cael ei chynnal ar-lein.
Dywedodd trefnydd y noson wobrwyo Mike Smith fod y "pleidleisiau dros Grav yn dangos sut wnaeth y sioe un dyn yma wneud argraff ar gynulleidfaoedd wrth iddi fynd ar daith drwy Gymru."
Mae'r ddrama yn son am fywyd y diweddar Ray Gravell.
Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn Theatr y Sherman, Caerdydd, nos Sadwrn.
Aeth y tair gwobr opera i Opera Cenedlaethol Cymru, gyda'r cyfarwyddwr y Cwmni, Lothar Koenigs, yn ennill y categori Sain Gorau.
Eleni roedd yna 593 o enwebiadau gan 34 o feirniaid led led Cymru.
Mae'r rhestr enillwyr isod.
Y SIOE ORAU AR GYFER PLANT A PHOBOL IFANC
Enillydd: Arabian Nights, Sherman Cymru
SAIN GORAU
Enillydd: Lothar Koenigs, Pelléas et Mélisande, Opera Cenedlaethol Cymru
GOLEUO GORAU
Enillydd: Terry Hands, Hamlet, Theatr Clwyd
DYLUNIO A/NEU GWISGOEDD GORAU
Enillydd: Holly McCarthy, The Royal Bed, Theatr Pena, cyd-gynhyrchiad Glan yr Afon ar y cyd â Theatr y Torch
PERFFORMIAD GORAU MEWN CYNHYRCHIAD OPERA - GWRYW
Enillydd: Christopher Purves, Pelléas et Mélisande, Opera Cenedlaethol Cymru
PERFFORMIAD GORAU MEWN CYNHYRCHIAD OPERA - MENYW
Enillydd: Rosa Feola, I Puritani, Opera Cenedlaethol Cymru. Cyd-gynhyrchiad gyda Den Jyske Opera/ Opera Genedlaethol Denmarc
CYNHYRACHID OPERA GORAU
Enillydd: Pelléas et Mélisande, Opera Cenedlaethol Cymru
ENSEMBLE GORAU
Enillydd: Pelléas et Mélisande, Opera Cenedlaethol Cymru
DRAMODYDD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG
Enillydd: Llŷr Titus, Drych, Cwmni'r Frân Wen mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru
DRAMODYDD GORAU YN YR IAITH SAESNEG
Enillydd: Alun Saunders, A Good Clean Heart, The Other Room
CYNHYRCHIAD DAWNS GORAU
Enillydd: Stories from a Crowded Room, Earthfall mewn partneriaeth â Chapter
ARTIST DAWNS GORAU - MENYW (PERFFORMIWR A/NEU GOREOGRAFFYDD)
Enillydd: Eddie Ladd, Dawns Ysbrydion, Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon
ARTIST DAWNS GORAU - GWRYW (PERFFORMIWR A/NEU GOREOGRAFFYDD)
Enillydd: Gwyn Emberton, TRIPTYCH III, De Oscuro ar a cyd â Canolfan Mileniwm Cymru a Chapter
CYNHYRCHIAD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG
Enillydd: Difa, Theatr Bara Caws
CYNHYRCHIAD GORAU YN YR IAITH SAESNEG
Enillydd: The Dying of Today, The Other Room
CYFARWYDDWR GORAU
Enillydd: Kate Wasserberg, Blasted, The Other Room
GWOBR Y GYNULLEIDFA
Enillydd: Grav, Cwmni'r Torch
LLWYDDIANT ARBENNIG
Enillydd: Jessica Cohen a Jim Enni