Rhybudd i filoedd am 'wastraff anghywir'

  • Cyhoeddwyd
bins
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd biniau newydd llai, 140 litr, eu cyflwyno ym mis Gorffennaf.

Mae Cyngor Caerdydd wedi anfon dros 4,000 o rybuddion ac wedi dirwyo 109 o drigolion sy'n rhoi'r math anghywir o wastraff yn eu biniau.

Fe wnaeth y cyngor newid y modd roedd gwastraff yn cael ei gasglu ym mis Gorffennaf.

Ymhlith y rheolau newydd mae rhybudd na ddylai pobl orlenwi eu biniau.

Fe wnaeth y Cyngor gyflwyno bagiau duon llai o fain fel rhan o'r newidiadau, er mwyn iddynt gwrdd â'u targedau ailgylchu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrtho pob awdurdod yng Nghymru y bod yn rhaid iddynt ailgylchu 58% o wastraff erbyn mis Mawrth eleni, neu wyneb dirwyon llym.

Dywed Cyngor Caerdydd eu bod wedi anfon 4,058 i drigolion dros gyfnod o chwe mis.

Roedd y rhai oedd yn parhau i dorri'r rheolau yn derbyn dirwy o £100.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Roedd y drefn newydd yn mynd i gymryd amser er mwyn i bobl gyfarwyddo. Ond mae' hanfodol fod y cyngor yn cwrdd â'r targed o 58%.

"Mae maint y gwastraff bwyd sy'n cael ei ailgylchu wedi cynyddu o 15%. Rydym am ddiolch i drigolion am eu cydweithrediad."