Honiadau di-sail am dabledi colli pwyau

  • Cyhoeddwyd
Karen Dawson
Disgrifiad o’r llun,
Karen Dawson

Mae ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod fod cwmni sy'n gwerthu tabledi colli pwysau ar y wê, ac o siop ym Mro Morgannwg wedi gwneud honiadau camarweiniol mewn hysbysebon.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod fod Sculpts Extreme o'r Barri wedi gwneud honiadau di-sail am effaith y tabledi ar iechyd.

Fe wnaeth Sculpts Extreme hefyd ddefnyddio lluniau o bobl heb eu caniatâd, er mwyn hyrwyddo eu cynnyrch,

Dywedodd y perchennog eu bod nawr wedi cael gwared â'r lluniau, a bod yr aelod o staff a oedd yn gyfrifol am eu defnyddio wedi ei ddiswyddo.

Dywed Safonau Masnach y byddant yn ymchwilio i'r honiadau.

Er mawr syndod iddi hi, dywed Karen Dawson i'w llun hi gael ei ddefnyddio fel enghraifft o rywun oedd wedi colli pwysau.

Dywedodd wrth raglen BBC Cymru X-Ray: "Roeddwn yn hynod ddig y gallai rhywun wneud y fath beth. Rwyf byth wedi cymryd tabledi colli pwysau, dwi ddim yn cytuno gyda'u cymryd."

Roedd Sculpts Extreme, sy'n berchen i Lee Szuchnik, wedi honni y gallai cwsmeriaid golli rhwng pedwar ac wyth pwys drwy gymryd y tabledi.

Roedd y label yn honni y gallai'r tabledi gymryd braster o gelloedd.

Ond dywed yr Athro Nadim Haboubi, cadeirydd Fforwm Cenedlaethol Gordewdra Cymru Wales fod yr honiad yn "wyrion".

"Yn ôl y gyfraith, mae angen i unrhyw honiadau iechyd o'r fath gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd. Doedd hynny heb ddigwydd," meddai.

Roedd Lee Szuchnik wedi dweud wrth un o ymchwilwyr y BBC, a oedd wedi ffugio bod yn gwsmer, nad oedd rhaid mynd i'r gampfa er mwyn colli pwysau os oedd rhywun yn defnyddio'r tabledi.

Soniodd fod un o'r cynhwysion, croen oren "yn crafu braster o wal yr y stumog" a "nad oedd rhaid mynd i'r gampfa, er mwyn colli pwysau."

Dywedodd yr Athro Haboubi nad oedd yr honiad yn gwneud synnwyr gwyddonol a bod yn "rhaid i bawb wneud ymarfer corff."

Dywedodd Mr Szuchnik fod yna gamgymeriadau wedi bod gyda labeli ar y poteli, a bod y rhain nawr wedi cael eu cywiro.

Ychwanegodd fod ganddo nifer o gwsmeriaid bodlon a bod nifer o'r rhain wedi colli pwysau heb yr angen i wneud ymarfer corff.

Fe fydd rhaglen X-Ray i'w weld ar BBC One Wales am 19:30 nos Lun.