Ail gwest i filwr fu farw yn 1995
- Cyhoeddwyd

Bydd cwest newydd i farwolaeth milwr o Langollen, gafodd ei darganfod yn farw ym marics Deepcut, Surrey 20 mlynedd, yn ôl yn dechrau ddydd Llun.
Cafwyd hyd i gorff y Preifat Cheryl James, 18 oed, ym mis Tachwedd 1995, gyda bwled yn ei phen.
Roedd hi'n un o bedwar milwr fu farw ym marics Deepcut rhwng 1995 a 2002, ac roedd honiadau o fwlian a cham-drin.
Mae disgwyl i'r cwest yn Woking, bara am saith wythnos, gan glywed tystiolaeth gan dros 100 o bobl.
Tad y preifat James, Des James, fydd ymhlith y cyntaf i roi tystiolaeth.
Ddydd Sul fe wnaeth cyfreithiwr Mr James honni wrth bapur newydd y Telegraph fod o leiaf 10 tyst wedi gwneud honiadau fod yna ecsploetio rhywiol wedi digwydd yn Deepcut.
Y Crwner fydd yn penderfynu a fydd y Cwest yn cael clywed yr honiadau.
Yn y cwest gwreiddiol yn 1995 cofnodwyd rheithfarn agored.
Ond yn dilyn ymgyrch hir gan deulu'r milwr, yn 2014 fe wnaeth y goruchel lys ddiddymu'r rheithfarn a gorchymyn ailgwest.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC cyn dechrau'r cwest dywedodd Mr James:
"Does gen i ddim ryw gasgliad yn fy meddwl, dwi jest eisiau'r gwir.
"Os mai'r dyfarniad fydd hunan laddiad, os yw'r cwestiynau wedi eu hateb - beth achosodd yr awyrgylch yna? Sut wnaeth e ddigwydd? Yna mae hynny yn iawn."
Mae nifer o wrandawiadau rhagarweiniol i'r cwest eisoes wedi eu cynnal.
Yn gynharach yn y mis, clywodd Llys Crwner Woking gan gyfreithwyr teulu Preifat James fod yna ddeunydd oedd yn awgyru ei bob yn bosib fod rhywun wedi ymosod yn rhywiol arni cyn ei marwolaeth.
Post mortem
Dywedodd Alison Foster, sy'n cynrychioli teulu Preifat James, fod yna gyhuddiad uniongyrchol fod hi'n "bosib fod Cheryl wedi cael gorchymyn i gysgu" gyda pherson, sy'n cael ei gyfeirio ato fel Tyst A, gan uwch swyddog.
Yn yr haf cafodd corff Preifat James ei ddatgladdu, a chafodd post-mortem arall ei gynnal.
Cafodd darnau man o fetel eu canfod, ac mae arbenigwyr bwledi wedi bod yn eu harchwilio.
Roedd ei theulu wedi ymgyrchu'n galed i'w chorff gael ei ddatgladdu, mewn ymdrech i ddatrys anghydfod ynglŷn â thystiolaeth ynglŷn â bwledi yn y cwest gwreiddiol.
Roedd y Preifat James yn un o bedwar milwr y cafwyd hydd iddynt yn farw ym marics Deepcut rhwng 1995 a 2002.
Bu farw Preifat Sean Benton, Priefat James Collinson a Geoff Gray o anafiadau a achoswyd gan wn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2016