Rhybudd o wyntoedd cryfion hyd at 70mya yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Fe allai gwyntoedd cryfion o hyd 70 mya achosi problemau teithio ac amharu ar gyflenwadau trydan ar hyd y gogledd.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn "byddwch yn barod" am 24 awr o 09:00 fore Llun.
Mae'r rhybudd ar gyfer rhannau o Wynedd a siroedd Môn, Conwy, Dinbych a Fflint.
Yn yr Alban mae disgwyl i gyflymdra'r gwynt gyrraedd hyd at 90 mya.