Gweilch 20-20 Glasgow

  • Cyhoeddwyd
Eli WalkerFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Eli Walker groesodd gyntaf

Fe wnaeth y Gweilch a Glasgow sgorio dau gais yr un mewn gêm oedd a digon o gyffro yn y Liberty.

Yr asgellwr Eli Walker oedd y cyntaf i groesi, ar ôl symudiad slic gan y Gweilch.

Ond yna croesodd Rory Hughes i Glasgow, gan olygu mai'r ymwelwyr oedd ar y blaen ar yr egwyl o 13-10.

Fe wnaeth cicio Sam Davies sicrhau fod y Gweilch yn dod yn gyfartal, ond yna aeth Glasgow ar y blaen unwaith yn rhagor gyda chais dadleuol Ryan Grant.

Roedd awgrym fod Ryan Wilson wedi symud ddwywaith ar y llawr yn y symudiad wnaeth arwain i'r cais.

Daeth y Gweilch yn gyfartal ar ôl bylchiad Sam Davies, wnaeth lwyddo i ddadlwytho i'r cefnwr Dan Evans.

Bu cyfle i'r tîm cartref gipio'r fuddugoliaeth ond aeth ymdrech Davies ar gol adlam heibio'r postyn.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Gweilch yn aros yn y seithfed safle yng nghynghrair y Pro12, tra bod Glasgow yn symud i'r wythfed safle.