Lagŵn Abertawe: Cytundeb i gymryd cyfran o £10m

  • Cyhoeddwyd
morlun

Mae BBC Cymru ar ddeall fod cytundeb i gymryd cyfran o £10m yn y cwmni sydd tu ôl i'r lagŵn llanw arfaethedig gwerth £1 biliwn ym Mae Abertawe wedi cael ei sicrhau.

Mae'r teulu Gupta, sy'n berchen ar Liberty Steel, a'r cwmni ynni Simec, wedi gwneud y buddsoddiad, mewn prosiectau arfaethedig yng Nghaerdydd a Chasnewydd, a ddaw yn sgil creu'r lagŵn.

Mae'r teulu yn ceisio buddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy ledled y byd.

Mae cwmni Tidal Lagoon Power yn dal i negyddu pris gyda llywodraeth y DU.

Daw'r buddsoddiad yng nghanol ansicrwydd yn y sector niwclear, gyda phryderon am gost adweithyddion newydd ar gyfer yr Wylfa, ar Ynys Môn, a Hinkley Point, Gwlad yr Haf.