Gwrthdrawiad A4119: Teyrngedau i dad tri o blant
- Cyhoeddwyd

Mae tad i dri o blant fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf fore Sadwrn wedi cael ei ddisgrifio fel "dyn teulu cariadus a ffyddlon".
Bu farw Sean Topping-Morris, 33 oed, o Bentyrch, Caerdydd, yn dilyn y digwyddiad ar ffordd yr A4119 ger Talbot Green, Llantrisant.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys y cerbyd Vauxhall Vivaro, am oddeutu 02:00.
Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu eu bod yn "drist iawn" o fod wedi colli Mr Topping-Morris.
Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.