Rhybudd am ddyfodol Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd

Mae pennaeth cwmni sydd y tu ôl i'r fenter o godi atomfa newydd ar Ynys Môn wedi rhybuddio y gallai'r cwmni dynnu nôl os na fydd cytundeb gyda llywodraeth y DU am gymorthdal.
Mae cadeirydd Hitachi, Hiroaki Nakanishi, wedi dweud wrth yr Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond, bod ganddo bryderon am gost yr atomfa.
Mae'n dilyn trafferthion tebyg ar gyfer atomfa arall yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf.
Fe ddywed llywodraeth y DU ei bod am gael ynni niwclear rhad.
Hitachi yw perchnogion Horizon Nuclear Power - y cwmni sy'n cynllunio i godi'r atomfa newydd allai fod yn weithredol erbyn y 2020au cynnar.
Mae Horizon mewn trafodaethau gyda'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) ar faterion fel yr isafswm pris am bob uned o drydan sy'n cael ei gynhyrchu, ac fe allai hynny fod yn allweddol wrth geisio denu cylliad ychwanegol i'r fenter.
Dywedodd Mr Nakanishi bod Hitachi wedi datgan "amodau teg iawn i'n buddsoddiad", ond fe fyddai ond yn ymrwymo i gytundeb yr oedd yn credu oedd yn hyfyw.
Ychwanegodd y gallai'r heriau sy'n wynebu Hinkley Point hefyd effeithio ar Horizon.
Pan ofynnwyd iddo os y gallai Hitachi dynnu nôl oni bai bod cytundeb hyfyw ar gael, atebodd Mr Nakanashi: "Gallai".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Amber Rudd: "Yr her, fel gyda pob technoleg carbon isel arall, yw i gynhyrchu ynni niwclear sydd hefyd yn rhad."