O na! Rygbi, rygbi a mwy o rygbi!

Nid yn aml y gwelwch chi Daniel Glyn yn y lleoliad yma!
Image caption Nid yn aml y gwelwch chi Daniel Glyn yn y lleoliad yma!

Ydych chi'n barod amdani? Ydi'r sgarff goch a gwyn wedi dod allan o'r cwpwrdd? Ydi mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar fin dechrau!

Ond nid pawb sy'n gwirioni gyda'r gystadleuaeth rygbi flynyddol. Y digrifwr Daniel Glyn fu'n rhannu ei deimladau gyda Cymru Fyw:

Y felan

Fi 'di bod yn teimlo'n reit chwithig drwy'r wythnos. Rhyw deimlad bach od, teimlad fod 'na rywbeth ofnadwy am ddigwydd. Pam fod yna rhyw felan yn dod drosta'i? Mae mis Ionawr, mis mwyaf diflas y flwyddyn, allan o'r ffordd.

Felly pam bo' fi'n teimlo fel hyn? Ac wedyn ges i'r tecst cyntaf. "Lle wyt ti'n mynd i wylio'r gêm [dydd Sul]?" Wrth gwrs, ma'r rygbi yn cychwyn penwythnos yma. Nid rygbi. Ond Y rygbi. Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Nid chwe gwlad. Ond Y chwe gwlad.

Achos dros y ddeufis nesa, mond chwe gwlad sy'n bodoli, wrth i Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal gystadlu i weld pa un ohonyn nhw fydd yn cynrychioli Ewrop yn yr 'Eurovision Song Contest'.

'Rugbyitis'

Dwi'n ymwybodol taw gornest rygbi ydyw, gyda nod ychydig yn wahanol i Eurovision, ond ma' well gen i feddwl am y peth fel camp fwy camp na'r gamp ma'r amryw gamp yn anelu ati - sef y Gamp Lawn. Dyma'r cyfnod lle dwi'm yn gweld fy ffrindiau ar benwythnosau, ond a bod yn onest, dyw e fawr o golled.

Ma' fel petaen nhw yn cael eu heintio gan rugbyitis, afiechyd tymhorol sydd yn hala pobl gall, ddiddorol, ddiwylliedig i droi mewn i'r bobl fwyaf diflas yn y byd. Mond unwaith dwi wedi gwylio gêm gyfan o rygbi, yn y 70au, pan oedd Phil Bennetton a JPS yn chwarae.

Image copyright Getty Images
Image caption Phil Bennetton?

Honno oedd y gêm pan stampiodd rhywun ar wyneb JPS Walliams. O'dd hwnna'n cool - fel ffan o ffilmiau gory o'n i'n medru gwerthfawrogi hwnna. O'dd y gwaith SFX ar hwnna yn anhygoel, odd e'n edrych mor realistig.

Ond sai'n cofio dim byd arall. Jyst lot o ddynion yn chwysu ac yn rhegi ac yn bwrw ei gilydd. A jyst fy nhad a'i ffrindiau oedd rheiny, yn gweiddi yn flin ar y teledu, ac yn taflu caniau gwag o gwrw at y sgrîn. Oedd yn od, achos doedd S4C ddim hyd yn oed yn bodoli bryd hynny.

'Yr 80 munud yn y canol'

Dwi'm yn casáu rygbi, mae 'casáu' yn air cryf. Ond ddim digon cryf i ddisgrifio'r hyn dwi'n teimlo am rygbi.

Drychwch ar be' sy'n digwydd i'r cyfryngau Cymraeg yr adeg yma o'r flwyddyn. Ma' nhw'n cymryd yn ganiataol fod pawb â diddordeb yn y gêm, ac os nad oes ganddoch chi, yna mae 'na golled arnoch chi. A phan ma' Cymru yn chwarae Lloegr, dyna pryd ddaw'r hiliaeth allan, wrth i ffans Cymru ganu mewn harmoni awgrymiadau celfydd am lefydd lle gall y Saeson roi eu chariot.

Image copyright Getty Images
Image caption "Na. Dim golwg o Daniel Glyn eto'r pnawn 'ma bois"

Fedra'i weld pam bod pobl yn mwynhau'r hwyl cyn y gêm, a chwarae teg, ma' 'na hwyl i gael ar ôl. Ond yr 80 munud yna yn y canol?

'Se well gen i wneud fy musnes yn fy nwylo a chlapio. Dwi'n gwybod bod lot o bobl yn anghytuno â mi. Ond dwi hefyd yn gwybod, yma yng Nghymru, bod lot mwy o bobl yn cytuno 'da fi. Rhaid ein bod ni wedi methu'r cyfarfod lle penderfynwyd bod RHAID inni fwynhau'r rygbi.

Dim ond un peth sy'n waeth na pan ma' Cymru yn colli eu gemau. Pan ma' nhw'n ennill. Yr holl ffans yn llefain, er 'sen i'n llefain 'fyd os bysen i wedi talu £75 am docyn. Ac felly dwi'n hapus i roi fy llaw i fyny, a datgan yn glir - Daniel Glyn ydw i, a dwi'n casáu rygbi. A phêl-droed hefyd.

Gofynnwyd imi droeon "Os nag wyt ti'n hoffi rygbi na phêl droed, beth wyt ti'n ei hoffi?". Ma'n syml. Popeth arall.

Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2015.