Marwolaeth dynes yn Nhonna: Arestio dau ddyn lleol
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod yng Nghastell-nedd.
Daeth yr heddlu o hyd i Andrea Lewis, 51, mewn tŷ ar Fairyland Road ym mhentref Tonna, tua 08:00 ddydd Sadwrn.
Mae dau ddyn lleol, 43 a 46, yn cael eu holi gan yr heddlu yn eu gorsaf yn Abertawe.
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.