Marwolaeth babi: Apêl i'r fam gysylltu gyda'r heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi annog mam baban newydd-anedig, gafodd ei ddarganfod yn farw yng Nghasnewydd, i gysylltu â nhw.
Cafodd corff y baban ei ddarganfod ychydig cyn 14:00 ddydd Gwener ger Parc Imperial yng Nghoedcernyw.
Mewn fideo gafodd ei roi ar y we gan y llu, dywedodd aelod o'r tîm sy'n ymchwilio i'r digwyddiad ei bod yn poeni am y fam.
"Rwy'n gwybod dy fod yn poeni am y babi am dy fod wedi ei lapio mewn tywel," meddai.
Fe ofynnodd i'r fam ffonio neu decstio'r llu, neu i gael rhywun i wneud ar ei rhan.
Dangosodd prawf post mortem gafodd ei gynnal ddydd Llun bod y baban wedi ei eni ar ôl beichiogrwydd tymor llawn.
Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un nad oes posib ei hesbonio ar hyn o bryd, ac maen nhw'n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r llu.