Diwrnod prysur i glybiau pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae clybiau Cymru wedi cael diwrnod prysur o arwyddo chwaraewyr wrth i'r ffenestr drosglwyddo gau tan yr haf.
Mae Abertawe wedi arwyddo'r chwaraewr canol-cae Leroy Fer ar fenthyg gan Queens Park Rangers nes diwedd y tymor.
Mae'r gŵr 26 oed o'r Iseldiroedd wedi ymddangos 19 gwaith i'r clwb hyd yn hyn y tymor yma.
Roedd newyddion da i Gaerdydd a Chymru hefyd, wrth i'r ymosodwr Tom Lawrence arwyddo i'r Adar Gleision ar fenthyg o Gaerlŷr nes diwedd y tymor.
Fe wnaeth Lawrence ennill ei gap cyntaf yn erbyn Andorra ym mis Hydref, a bu ar fenthyg gyda Blackburn Rovers am y misoedd diwethaf.
Mae Bournemouth hefyd wedi denu Cymro arall i'r Uwch Gynghrair, wrth iddyn nhw arwyddo'r amddiffynnwr Rhoys Wiggins o Sheffield Wednesday.
Dyma'r pedwerydd tro i Wiggins arwyddo i'r clwb, a chredir bod y ffi tua £200,000.
Mae Simon Church yn Gymro arall sydd wedi symud clybiau, wrth iddo ymuno ag Aberdeen ar fenthyg o MK Dons.
Eder yn gadael
Mae Caerdydd hefyd wedi arwyddo Kenneth Zohore ar fenthyg o glwb KV Kortrijk yng Ngwlad Belg - clwb arall dan berchnogaeth Vincent Tan.
Wrth i Fer gyrraedd, mae un chwaraewr wedi gadael yr Elyrch, gyda'r ymosodwr Eder yn ymuno â Lille yn Ffrainc ar fenthyg.
Dim ond ddwywaith mae'r gŵr o Bortiwgal wedi dechrau i'r clwb yn y gynghrair ers ymuno o Sporting Braga yn yr haf.
Yn y cyfamser, mae wedi dod i'r amlwg bod West Bromwich Albion wedi gwrthod cynnig Abertawe i arwyddo amddiffynnwr Cymru, James Chester ar fenthyg.
Unwaith yn unig mae Chester wedi dechrau i West Brom yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor yma, er i'r clwb dalu £8m i Hull amdano yn yr haf.