Dyn oedrannus wedi'i achub o'r môr ger Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Bad achubFfynhonnell y llun, RNLI

Mae dyn oedrannus wedi cael ei achub o'r môr ar ôl mynd ar goll yn ardal Llanelli nos Lun.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau bod y dyn wedi'i ddarganfod mewn cyflwr hypothermig ger pentref Pwll.

Y gred yw ei fod wedi bod yn y dŵr am dipyn o amser cyn iddo gael ei ddarganfod am 19:49.

Cafodd dimau badau achub a hofrennydd Gwylwyr y Glannau eu galw i helpu Heddlu Dyfed Powys am tua 19:00.

Mae'r dyn wedi ei gymryd i'r ysbyty gan yr heddlu, ond does dim gwybodaeth eto am ei gyflwr.