Gwrthdrawiad Sir Ddinbych: Anafiadau difrifol i ddau
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi cael eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar a bws yn Sir Ddinbych nos Lun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 ger Llanbedr-Dyffryn-Clwyd am tua 18:30.
Dywedodd y gwasanaethau brys bod y ddau berson sydd wedi eu hanafu yn teithio yn y ceir, ac ni chafodd unrhyw deithwyr ar y bws eu hanafu.
Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans, cafodd ddynes ei chymryd i Ysbyty Glan Clwyd a chafodd ddyn ei gymryd i Ysbyty Maelor yn Wrecsam - y ddau gydag anafiadau difrifol.