Pleidleisio ar-lein yn opsiwn, medd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pleidleisio ar-leinFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe allai pobl ddewis pleidleisio ar-lein ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn y dyfodol petai Plaid Cymru yn llywodraethu, yn ôl arweinydd y blaid.

Mae Leanne Wood wedi awgrymu treialu pleidleisio yn ddigidol, gan ddilyn esiampl Estonia yn 2005. Roedd pobl wedi gallu pleidleisio ar y we yn yr etholiad hwnnw.

Mewn araith yn Aberystwyth nos Lun, fe wnaeth Ms Wood addo "adnewyddu democratiaeth" petai ei phlaid yn dod i'r brig yn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai, gan gynnwys gostwng oedran pleidleisio.

Mae disgwyl i'r Cynulliad gael pwerau newydd dros etholiadau fel rhan o'r cam nesaf yn y broses ddatganoli.

Byddai Plaid Cymru yn defnyddio'r pwerau yna, meddai nhw, i roi pleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn yr holl etholiadau mae'r Cynulliad yn gyfrifol amdanyn nhw.

Mae disgwyl i Ms Wood ddweud bod angen "dysgu oddi wrth wledydd fel Estonia a threialu pleidleisio digidol".

Wrth gyfeirio at bryderon ynglŷn â diogelwch pleidleisio ar y we, dywedodd: "Dyw pleidleisio yn ddigidol ddim yn newydd yn y wlad honno (Estonia) ac mae yna lawer y gallwn ni ddysgu o ran diogelwch cyber ac etholiadau."

'Agored'

Mi fyddai Plaid Cymru hefyd yn cynnal cyfarfodydd cabinet y tu allan i Gaerdydd, gyda'r cyhoedd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i'r gweinidogion.

Ychwanegodd Ms Wood na fyddai ganddyn nhw "agwedd dan warchae" Llafur.

Meddai: "Mi fyddwn ni'n agored. Mi fyddwn i ar gael i bawb. Mi fyddwn i'n atebol. Mi fyddwn i'n gwneud ein gorau i wneud Cymru'r gorau y gall hi fod. Mi fyddwn i, dwii'n siŵr, yn gwneud camgymeriadau ar hyd y ffordd. Ond fyddwn ni ddim yn osgoi bod pobl yn craffu arnon ni na'n osgoi cael ein dwyn i gyfri."

Yn y digwyddiad, sydd wedi ei drefnu gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, bydd Ms Wood yn cynnig newidiadau i'r system ddeisebau fel bod rhai sy'n cael 10,000 o lofnodion yn arwain at ddadl yn y Senedd.

Byddai Plaid Cymru hefyd yn sefydlu Senedd Bobl Ifanc.