Rhestr merched yn anfodloni aelodau o'r blaid Lafur
- Cyhoeddwyd

Mae gwrthwynebiad wedi bod i'r newyddion y bydd rhestr merched yn unig er mwyn dewis Aelod Cynulliad Llafur mewn sedd allweddol.
Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis yn rhoi'r gorau iddi ar ôl cynrychioli Merthyr a Rhymni fel AC am 17 mlynedd.
Mae arweinydd Cyngor Merthyr, Brendan Toomey yn un o nifer o aelodau o'r blaid sy'n bryderus am y cyfyngiad.
Dywedodd llefarydd o Llafur Cymru bod y blaid yn "falch o'i record o gynyddu amrywiaeth o fewn gwleidyddiaeth".
"Roedd Llafur ar flaen y gad o ran cael cynrychiolwyr benywaidd yng Nghymru gyda mwy o Aelodau Seneddol benywaidd, Aelodau Cynulliad a chynghorwyr nag unrhyw blaid arall ac mi fyddwn ni yn parhau i wneud hynny," meddai'r llefarydd.
Dim cyfleuoedd
Mae'r cynghorydd lleol Mike O'Neill wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn "ofnadwy o siomedig", gan gyfaddef ei fod gyda diddordeb bod yn AC.
"Mae'n ymwneud gyda dewis yr ymgeisydd cywir," meddai.
"Dyw pobl sy'n deall yr ardal ac sy'n dod o'r ardal ddim yn cael y cyfle i gynrychioli'r etholaeth ar y lefel nesaf, yn y Cynulliad.
"Mae'n anffodus oherwydd fe allan ni gael rhywun o du allan i'r ardal - allai fod yn dalentog neu ddim yn dalentog. Ond yn sicr fyddan nhw ddim yn adnabod yr ardal fel y trigolion lleol."