Dramau arlein 'ddim yn cystadlu â'r BBC'

  • Cyhoeddwyd
Andrew Davies

Mae sgriptiwr teledu profiadol o Gaerdydd yn dweud na all cyfresi drama arlein gystadlu gyda llwyddiant dramau'r BBC.

Dros y blynyddoedd, mae Andrew Davies wedi addasu nifer o'r clasuron i'r sgrîn deledu, gan gynnwys House of Cards, Pride and Prejudice a Bleak House.

Roedd yn siarad wedi dangosiad arbennig o bennod olaf ei addasiad teledu o War and Peace, sy'n gynhyrchiad gan BBC Cymru Wales.

Dywedodd Mr Davies, sy'n 79 oed, fod drama "yn rhywbeth y mae bron i bawb yn cytuno y dylai'r BBC fod yn ei wneud", ac nad yw darlledwyr arlein eraill fel Amazon Prime a Netflix yn denu cynulleidfaoedd tebyg.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Andrew Davies yn dweud fod dramau'r BBC fel War and Peace yn denu mwy o wylwyr na chyfresi arlein.

"Mae ganddyn nhw gyllidebau anferth, ond hyd yn hyn, cynulleidfaoedd bach iawn sy' ganddyn nhw," meddai.

"Mae pobl yn dweud 'mae pawb yn gwylio Mad Men, mae pawb yn gwylio'r fersiwn Americanaidd o House of Cards'. Dydyn nhw ddim, dim ond pobl o fewn y busnes sy'n eu gwylio nhw. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwylio Call the Midwife a War and Peace."

'Rhan annatod o'r BBC'

Wrth gyfeirio at y drafodaeth ynglŷn ag adnewyddu siarter brenhinol y BBC, dywedodd Mr Davies fod drama yn rhan annatod o waith y gorfforaeth.

"Rwy'n credu bod drama o ansawdd a drama ddylanwadol yn rhywbeth y mae pawb yn cytuno y dylai'r BBC fod yn ei wneud," meddai.

"Mae llawer o'r dadleuon (am ddyfodol y BBC) yn tueddu i fod am sioeau diddanu drud, a rhaglenni sy'n cael eu prynu a'r math yna o beth.

"Ond rwy'n credu bod War and Peace yn wych i gael pawb ar ochr y BBC. Fyddai hi ddim wedi bod yn bosib gwneud hon heb y BBC, pwy fyddai wedi ei gwneud hi?"

Mewn sesiwn holi ac ateb yn dilyn dangosiad o'r ddrama nos Lun, datgelodd Davies ei fod bwriadu gweithio ar addasiad o Les Misérables "Heb Gerddoriaeth na Chanu", a drama wedi ei seilio ar Aneurin Bevan a sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol.

'Pathetig'

Roedd ganddo hefyd ganmoliaeth i'r cynnydd mewn cynhyrchiadau drama yng Nghymru ers i Doctor Who ddechrau ffilmio yng Nghaerdydd

Ond dywedodd bod cynhyrchu drama o fewn BBC Cymru "20 neu 30 mlynedd yn ôl yn pathetig".

Ychwanegodd: "Doedden nhw ddim yn gallu gwneud unrhyw beth, a byddai cynhyrchiadau pobl eraill yn defnyddio arian BBC Cymru am na allai BBC Cymru feddwl am unrhyw beth.

"Mae hi wedi bod yn ddegawd anhygoel, gan ddechrau gyda Doctor Who. Mae'n fy nghyffroi i, yn dod o Gymru, gan fy mod wedi bod yn gweithio i'r BBC ers amser ond prin wedi gallu gweithio i BBC Cymru oherwydd eu bod mor gysglyd dros y blynyddoedd.

"Bellach, mae'n bwerdy, sy'n anhygoel, ac fe ddylen fod yn falch iawn ohono. Ond gwnewch yn siwr eich bod yn ei gadw i fynd."