'Blwyddyn fawr' i antur yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Zip World
Disgrifiad o’r llun,
Mae gwifren wib Zip World ger Bethesda, Gwynedd, yn denu miloedd

Gallai gwyliau antur arwain at £2 biliwn yn economi'r gogledd eleni, yn ôl pennaeth twristiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi 2016 yn Flwyddyn Antur ac mae Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru, yn credu bod hynny'n ddechrau oes aur i'r economi.

Oherwydd datblygiadau fel gwifren wib Zip World a Surf Snowdonia mae gogledd Cymru'n cael ei chydnabod fel arweinydd byd eang yn y farchnad gwyliau antur ac mae'r sector yn cyflogi 40,000 o bobl ar draws y rhanbarth.

Ar yr un pryd mae Mr Jones yn amcangyfrif bod dros £100m o arian y sector preifat yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau twristiaeth yno.

Disgrifiad o’r llun,
Jim Jones: "Angen brand unigryw"

Dywedodd Mr Jones: "Yr hyn sydd angen yw i ni gofleidio'r sector cyhoeddus a cheisio dod â nhw a'r sector preifat ynghyd i greu un llais a brand unigryw i ogledd Cymru.

"Mae pobl yn sylweddoli mai twristiaeth yw'r diwydiant mwyaf yn y gogledd gydag 8% o GDP y rhanbarth - neu £2 biliwn - yn sgil twristiaeth.

"Ac mae'r gydnabyddiaeth yn tyfu gyda 40,000 o swyddi wedi'u creu'n uniongyrchol yn y diwydiant a'r potensial am lawer mwy.

"Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru, yn enwedig gan fod 2016 wedi'i dynodi'n Flwyddyn Antur."

Disgrifiad o’r llun,
Mae atyniad Surf Snowdonia eisoes wedi ennill clod a gwobrau

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod Blwyddyn Antur 2016 yw:

  • Ysgogi'r diwydiant;
  • Rhoi abwyd newydd i'r cyfryngau ac ailfywiogi brand Cymru ar draws y byd;
  • Sbarduno pobl Cymru;
  • Creu ffocws ar gyfer buddsoddiad;
  • Ysbrydoli marchnadoedd targed i feddwl yn wahanol a denu ymwelwyr newydd i Gymru nawr;
  • Bod yn gyrchfan antur blaenllaw o fewn Ewrop, gan gynnig profiadau diogel, cynaliadwy a moesol;
  • Croesawu anturiaethwyr o bob oedran, gallu a diddordeb.