Maes Awyr Caerdydd: 'Amhosib' gwybod a dalwyd y pris cywir
- Published
Bydd hi'n amhosib gwybod a dalodd Llywodraeth Cymru'r pris cywir am Faes Awyr Caerdydd, yn ôl ei gadeirydd.
Mae rhai wedi cwestiynu'r swm a dalwyd, ond mynnodd Roger Lewis "heb os nac oni bai" fod y llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad cywir yn camu i'r bwlch.
Dywedodd Mr Lewis wrth Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ddydd Mawrth bod y Maes Awyr "ar ochr y dibyn" cyn hynny.
Yn ôl adroddiad yr wythnos ddiwethaf, roedd y pris a dalodd Llywodraeth Cymru am y Maes Awyr bron i ddwbl gwerth y safle.
Cafodd ei brynu am £52m yn 2013, er bod cwmni cyfrifo KPMG yn amcangyfrif mai ei werth ar y farchnad fyddai rhwng £20m a £30m.
Yn ôl y llywodraeth, roedd yr amcangyfrif o werth y maes awyr i'r cyhoedd a'r economi leol, £472m, yn cyfiawnhau'r pris a dalwyd.
'Penderfyniad cywir'
"A fyddai rhywun wedi gallu talu llai amdano? O bosib," meddai Mr Lewis wrth yr Aelodau Cynulliad.
"A fyddai rhywun wedi gallu talu mwy amdano? O bosib. Mae hi'n amhosib gwybod.
"Oherwydd beth bynnag sydd ym meddwl y gwerthwr - ac mae angen gwerthwr parod yn ogystal â phrynwr parod, bydd hi'n amhosib gwybod."
Ychwanegodd Mr Lewis: "Ai hwn oedd y penderfyniad cywir i Gymru? Heb os nac oni bai."
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Maes Awyr bod y syniad o'i gau wedi ei grybwyll mewn cyfarfodydd bwrdd cyn i'r llywodraeth ei brynu.
Ond mynnodd Debra Barber nad oedd cynlluniau yn eu lle i weithredu hynny.