Dros 450 o farwolaethau alcohol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd cyfanswm o 459 o farwolaethau yn ymwneud ag alcohol eu cofnodi yng Nghymru yn 2014, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol yn dangos bod 295 o ddynion a 164 o ferched wedi marw mewn achosion yn ymwneud ag alcohol.
Mae'r nifer yn eithaf tebyg i'r blynyddoedd diweddar, ond yn lleihad sylweddol ar 2008, pan fu farw 541 o bobl.
Dros y DU, roedd ychydig dros 8,600 o farwolaethau'n ymwneud ag, gyda 65% yn ddynion, a 35% yn ferched.
Yng Nghymru, roedd 19.9 marwolaeth i bob 100,000 o ddynion yn y boblogaeth, a 10.4 marwolaeth i bob 100,000 o ferched.