Dyn yn ennill achos yn erbyn Apple dros oriawr

  • Cyhoeddwyd
Apple WatchFfynhonnell y llun, SWNS.com

Mae dyn o Geredigion wedi ennill achos yn erbyn cwmni Apple ar ôl i'w oriawr werth dros £300 dorri.

Talodd Gareth Cross, 32 oed o Aberystwyth, £339 am yr Appple Watch Sport ym mis Gorffennaf y llynedd ond sylwodd ar grac ynddi 10 diwrnod yn ddiweddarach.

Dywedodd y cwmni nad oedd trwsio'r oriawr o dan warant yr oriawr er bod disgrifiad y cynnyrch yn dweud ei bod "yn gwrthsefyll crafiadau".

Mae Apple wedi cael cais i ymateb.

'Gwylio'r teledu'

Ffynhonnell y llun, SWNS.com

Fe ddechreuodd Mr Cross achos cyfreithiol yn erbyn Apple, un o gwmnïau technoleg mwyaf yn y byd, a honni eu bod wedi torri'r Ddeddf Gwerthu Nwyddau.

Ennillodd yr achos wedi chwe mis o frwydro ac mae'r cwmni wedi cytuno i dalu cost yr oriawr i Mr Cross a chostau o £429.

Mae Apple hefyd wedi newid disgrifiad yr oriawr a dileu'r cymal am wrthsefyll ergydion.

Dywedodd Mr Cross: "Doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw beth egniol, dim ond eistedd a gwylio'r teledu.

"Ond pan es i i'r gwaith roedd y crac wedi mynd yn fwy a mwy felly wnes i alw Apple i gael ei thrwsio."