America: Cymro'n pledio'n euog i droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd

Cafodd Gareth Vincent Hall ei arestio ym mis Mai y llynedd
Mae dyn o ogledd Cymru wedi pledio'n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â throseddau rhyw yn America.
Plediodd Gareth Vincent Hall, 22 oed o Dalysarn, Gwynedd, yn euog i gyhuddiadau o dreisio, ymosodiad rhyw difrifol a llygru plentyn ar-lein.
Cafodd cyhuddiad o herwgipio ei ollwng a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 1 Mawrth.
Yn ôl gorsaf newyddion KMTR yn Oregon, UDA, mae Hall yn wynebu rhwng 25 a 50 mlynedd dan glo.
Cafodd Hall ei arestio ym maes awyr Chicago, wedi iddo deithio i America ym mis Mai 2015.
Straeon perthnasol
- 12 Mai 2015