Mesur Cymru: Beirniadaeth 'ar sail anwybodaeth'

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru ddweud bod beirniadaeth o'i gynlluniau i ailysgrifennu'r setliad datganoli wedi ei seilio ar "anwybodaeth".

Bydd Stephen Crabb yn cyhuddo Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones o "symud pyst y gôl" a honni ei fod wedi "rhoi'r ffidil yn y to" am ddyfodol yr Undeb.

Byddai mesur drafft Cymru yn rhoi pwerau newydd i'r Cynulliad dros ynni, trafnidiaeth a'i etholiadau, gyda'r nod o egluro'n gliriach beth sydd wedi ei ddatganoli i Fae Caerdydd.

Ond bydd ASau Llafur hefyd yn ymosod ar y mesur mewn dadl ddydd Mercher, gan ddweud na fyddan nhw'n ei gefnogi os nad oed newidiadau mawr iddo.

Mae gwleidyddion pob plaid wedi bod yn feirniadol gan y byddai gan weinidogion San Steffan feto dros benderfyniadau yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Mr Crabb yn wynebu beirniadaeth gan ASau Llafur yn San Steffan

Bydd Mr Crabb yn amddiffyn cynlluniau Llywodraeth y DU, gan ddweud wrth yr Uwch-Bwyllgor Cymreig: "Ni fydd 'feto Saesnig' ac ni fydd pwerau yn mynd yn eu holau (i San Steffan).

"Mae'r mesur yn taro'r cydbwysedd cywir," mae disgwyl iddo ddweud.

A bydd yn dadlau iddo fod yn "hyblyg" a "phragmatig" wrth geisio cael consensws.

Gan dderbyn y bydd rhaid "newid rhai elfennau o'r mesur," mae am honni bod "barn resymol yng Nghymru nad yw wedi ei mynegi gan y Prif Weinidog na Phlaid Cymru".

Bydd yn dweud: "Pan mae'r Prif Weinidog yn symud pyst y gôl ac yn newid ei agwedd, mae hynny'n gwneud y trafod yn anodd iawn.

"Erbyn hyn, mae ei agwedd fel un Leanne Wood, yn dadlau am setliad datganoli sy'n tanseilio rôl a chyfreithlondeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig."

'Haeddu gwell'

Ond mae Mr Crabb hefyd yn wynebu beirniadaeth gan ASau Llafur yn San Steffan.

Bydd llefarydd Llafur ar Gymru, AS Llanelli Nia Griffith, yn defnyddio'r ddadl i ddweud wrth Mr Crabb: "Mae hwn yn fesur sydd wedi ei ddrafftio yn sâl, yn gymhleth heb fod angen ac yn anymarferol."

"Mae pobl Cymru'n haeddu gwell. Mae'r ysgrifennydd wedi methu pob un o'i brofion ei hun. Ni fyddwn yn cefnogi'r mesur oni bai bod newidiadau mawr iddo."