Marwolaeth dynes yn Nhonna: Cyhuddo dyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth mam i ddau o blant mewn tŷ yng Nghastell-nedd.
Daeth yr heddlu o hyd i Andrea Lewis, 51, mewn tŷ ar Fairyland Road ym mhentref Tonna, tua 08:00 ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod disgwyl i ddyn 43 oed, ymddangos ger bron Llys Ynadon Abertawe ar 3 Chwefror.
Cafodd dyn arall, 46 oed, hefyd ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Yn y cyfamser, mae teulu Ms Lewis wedi rhoi teyrnged iddi. Mewn datganiad, fe ddywedodd y teulu fod Andrea Lewis yn "ferch, chwaer a mam yr oeddem ni gyd yn ei charu yn fawr iawn, ac roedd pawb yn ei haddoli hi.
"Fe fydd yn golled sylweddol i ni gyd."
Dywedodd yr heddlu fod teulu o Ms Lewis yn cael cefnogaeth gan swyddogion.