Marwolaethau Leeds: Darganfod corff dyn yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod ar yr arfordir yng ngogledd Cymru ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i ddynes a dau o blant yn farw mewn tŷ yn Sir Efrog.
Daeth swyddogion o hyd i'r dyn ychydig ar ôl 17:00 ddydd Mawrth, 2 Chwefror, ar glogwyni yng nghyffiniau Ynys Lawd ger Caergybi, Ynys Môn.
Yn gynharach ddydd Mawrth, gafodd gorff dynes ei ddarganfod mewn tŷ yn ardal Allerton Bywater yn Leeds, ac fe gafodd cyrff y plant eu darganfod yn un o lofftydd yr eiddo.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Sir Efrog eu bod yn credu i'r marwolaethau fod yn gysylltiedig.
Mae'r llu yn cydweithio gyda Heddlu'r Gogledd tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Dyw corff y dyn heb gael ei adnabod yn swyddogol eto, na chadarnhad os gafodd gerbyd ei ddarganfod.
Mae gwylwyr y glannau a'r RNLI wedi bod yn helpu'r heddlu gydag ymgyrch oedd yn cael ei gynnal ar ran Heddlu Gorllewin Sir Efrog.
Yn ôl y Ditectif Brif Arolygydd Warren Stevenson o Heddlu Gorllewin Sir Efrog, mae marwolaethau'r ddynes a'r plant yn cael eu trin fel llofruddiaeth.
Bydd profion post mortem yn cael eu cynnal i sefydlu achos eu marwolaethau.