Dim newid ym mhrisiau Dŵr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn bwriadu cadw eu prisiau yn is na chyfradd chwyddiant am y seithfed flwyddyn yn olynol.
Dywedodd y cwmni y byddai biliau cyfartalog cartrefi Cymru yn aros yn ddigyfnewid o'i gymharu â'r llynedd.
Hefyd, mae trothwy ar gyfer eu tariff arbennig i bobl sydd ag incwm yn llai na £12,500 y flwyddyn yn cael ei ymestyn i'r rhai sy'n ennill llai na £15,000.
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Chris Jones: "Mae ein model unigryw 'nid er mwyn elw' yn golygu y gallwn wneud mwy ar gyfer ein cwsmeriaid."